Disgrifiad
Cyfrol bryfoclyd, ddoniol a phersonol, sy’n canolbwyntio ar rwydwaith unigryw a hynod o lwybrau troed yng ngwledydd Prydain. Ceir yma bortreadau o wahanol gymeriadau y mae Mike yn cwrdd â nhw ar hyd y daith – beirdd ac artistiaid, ffermwyr a cherddwyr, tirfeddianwyr a swyddogion hawliau tramwy, ymgyrchwyr, haneswyr ac archifwyr.



