Disgrifiad
Wedi iddo gael ei olchi i’r lan ar ynys yn y Môr Tawel, mae Michael yn brwydro i oroesi. Heb fwyd na dŵr, mae’n cyrlio’n belen, yn cau ei lygaid ac yn paratoi at y diwedd. Wedi iddo ddeffro, gwêl blataid o bysgod a ffrwythau ynghyd â phowlenaid o ddŵr yn ei ymyl. Dyw e ddim ar ei ben ei hun…



