Disgrifiad
Hanes doniol yr awdur Miles Jupp sy’n ddwl am griced, ac sy’n fodlon mynd i eithafion i weld ei arwyr yn chwarae. Mae’n honni ei fod yn sylwebydd criced i’r BBC yn yr Alban er mwyn derbyn tocyn lloc y wasg ar gyfer gemau prawf rhwng timau Lloegr ac India, ond wrth geisio cynnal y twyll, daw i sylweddoli nad yw bywyd yn fêl i gyd.



