Disgrifiad
Er gwaetha’r cynnydd ym myd y cyfryngau, prin iawn yw’r deunydd am hanes teledu masnachol yng Nghymru. Mae’r gyfrol hon yn llenwi’r bwlch ac yn edrych ar yr anghydbwysedd hwnnw, trwy olrhain tyfiant a datblygiad ITV yng Nghymru, ac yn asesu cyfraniad ITV i fywyd y genedl.



