Disgrifiad
Gwenlyn Parry oedd un o ddramodwyr Cymraeg pennaf yr ugeinfed ganrif. Chwaraeodd ran allweddol ym mhoblogeiddio drama ar lwyfan ac ar deledu yn ystod yr 1970au a’r 1980au, a chafodd ei brif ddramâu llwyfan – Saer Doliau, Tŷ ar y Tywod, Y Ffin a Y Tŵr – ddylanwad sylweddol.



