Disgrifiad
1865: Tyddynnwr tlawd dan ormes yw Dafydd Rhys, sy’n ymfudo gyda’i deulu a’i ffrindiau o gymoedd de Cymru i Batagonia, gydag addewid am hunanlywodraeth a’r hawl i siarad Cymraeg heb ennyn cosb yn obaith iddynt. Ond a fydd Dafydd yn canfod nerth i arwain ei bobl yn wyneb yr addewidion a dorrir, y trasedïau teuluol a’r trychinebau naturiol?



