Disgrifiad
Mae olion fila Rufeinig Chedworth, swydd Gaerloyw, yn un o’r ychydig sydd ar agor i’r cyhoedd. Ceisir egluro ystyr yr olion hynny yn y gyfrol hon, ynghyd â statws uchel y perchnogion ymhlith y bendefigaeth Rufeinig yn ‘oes aur’ y bedwaredd ganrif pan oedd ardal y Cotswolds yn un o’r ardaloedd cyfoethocaf ym Mhrydain Rufeinig.



