Disgrifiad
Nid oes dwywaith fod Pedair Cainc y Mabinogi yn drysorfa o chwedlau. Mae straeon yn hudolus ac yn ddryslyd, ond ar yr un pryd y mae iddyn nhw ryw ryfeddod digamsyniol. Dim ond un cymeriad sy’n ymddangos ym mhob un o’r Pedair Cainc, sef Pryderi, ac yn y gyfrol hon cawn ddysgu am y portread ohono.




