Disgrifiad
Hanes hynod ddiddorol am y gwaith o adeiladu rhannau ar gyfer porthladd ffug a wnaethpwyd ar draethau Conwy dan oruchwyliaeth y peiriannydd sifil Hugh Iorys Hughes, cyn iddynt gael eu defnyddio yn ystod y glaniad llwyddiannus ar draethau Normandi ym Mehefin 1944. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn 2001.



