Disgrifiad
Mae merch glyfar o’r enw Uarda, sy’n dwlu ar ddatrys posau, yn dymuno bod yn beiriannydd. Mae’n dychwelyd i Afon Menai i gyfarfod un o lewod carreg enwog Pont Britannia. Mae’n dysgu am y tân a ddinistriodd y bont yn 1970, ac am y modd y’i trwsiwyd gan y peirianwyr, gan ychwanegu rhywbeth newydd!




