Disgrifiad
Cyfrol swynol o sticeri sy’n dwyn golygfeydd o gyfnod y Rhufeiniaid yn fyw: gladiatoriaid yn ymladd yn y Colisëwm, gwersyll Rhufeinig yn byrlymu o filwyr, gwledd fawreddog yng nghartref seneddwr, ynghyd â golygfeydd o’r Rhufeiniaid wrth eu gwaith bob dydd. Cyfrol i ddifyrru ac i addysgu.



