Disgrifiad
Mae Jennifer Strange, sy’n bymtheg oed, yn rhedeg asiantaeth gyflogi dewiniaid a swynwyr, ond does dim llawer o waith creu swynion ar gael bellach. Yna mae’r gweledigaethau yn dechrau, gan ragweld marwolaeth y ddraig olaf. Os oes gwirionedd yn y gweledigaethau, bydd popeth yn newid i Jennifer ac i Kazan.



