Disgrifiad
Casgliad o 275 llun du-a-gwyn ynghyd â nodiadau eglurhaol yn darlunio llwybr y rheilffordd drwy ogledd Cymru a Phenrhyn Llŷn. Er bod y rheilffordd yn galw heibio gweithfeydd dur, glofeydd a chyrchfannau glan môr, prif bwrpas rheilffordd gogledd Cymru, serch hynny, oedd creu dolen gyswllt gyflymach rhwng Llundain ac Iwerddon.



