Disgrifiad
Mae Caerdydd yn ddinas fywiog, fodern, yn gartref i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn gyrchfan i ymwelwyr o bob cwr o’r byd. Yn sgil chwyldro diwydiannol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, datblygodd Caerdydd yn sylweddol, a sefydlwyd nifer fawr o gapeli ac eglwysi o bob enwad er mwyn diwallu anghenion poblogaeth y ddinas.



