Disgrifiad
Casgliad o ffotograffau yn portreadu’r cyferbyniadau moel rhwng ddoe a heddiw ym Merthyr Tudful. Tyfodd y dref yn brifddinas haearn y byd, ond wynebodd newid mawr gyda dirywiad y diwydiant, gan arddangos gwytnwch cymeriad a balchder mewn etifeddiaeth gyfoethog o ran tirwedd, golygfeydd ac adeiladau hanesyddol.



