Disgrifiad
Mae hanes dinas Abertawe yn ymestyn yn ôl i gyfnod sefydlu canolfan fasnach Lychlynaidd yng ngheg Afon Tawe, ac i’r anheddiad a dderbyniodd siarter yn dilyn y Goncwest Normanaidd. Yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, tyfodd y dref yn gyflym yn sgil datblygiad cloddio am lo a thoddi copr yn yr ardal.



