Disgrifiad
Cyfrol sy’n anelu at gynorthwyo myfyrwyr Gwyddoniaeth Dwyradd TGAU wrth iddynt gynllunio a rheoli eu rhaglen adolygu. Cynhwysir arolwg llawn o themâu allweddol y cwrs ynghyd â thasgau arholiad a chynghorion ymarferol ar sut i greu canllaw adolygu y gall myfyrwyr ddibynnu arno er mwyn adolygu, cryfhau a phrofi eu gwybodaeth.



