Disgrifiad
Dechreuodd stori ymdaith Harri Tudur i faes Bosworth a’i esgyniad i orsedd Lloegr flynyddoedd maith cyn haf tyngedfennol 1485, gyda’i enedigaeth yng Nghastell Penfro. Saif y gaer gawraidd, fewndirol lle y treuliodd ei blentyndod ryw 12 milltir o’r traeth lle y bwriadai Harri lanio pan heriodd Richard III ym mis Awst 1485.



