Disgrifiad
Nofel arallfydol ei naws sy’n chwedl ac yn ddirgelwch, gyda’r cefndir yn ardal amgueddfa genedlaethol Caerdydd. Wrth i’r cymeriadau grwydro o amgylch parciau ac orielau celf, maent yn datgelu bywydau o obsesiwn, colled ac adferiad, gan greu rhwydwaith brau o berthnasau sy’n codi uwchben rhigol bywyd digyffro trigolion y brifddinas.



