Disgrifiad
Wedi iddo golli ei waith a’i gartref, mae gŵr ifanc Siapaneaidd yn ceisio lloches mewn tŷ o bren a phapur, gan geisio ailgreu ei hunaniaeth. Gyda chath a soddgrwth yn unig gwmni iddo, ac ym mhresenoldeb bygythiol ‘yokai’, caiff ei afael ar ei bwyll ei chwalu. Enillydd gwobr Brydeinig Sefydliad Sasakawa.



