Disgrifiad
Mae Still, sef casgliad newydd o gerddi gan Chris Meredith yn defnyddio gair unigol y teitl i gyflwyno ystyriaethau paradocsaidd amrywiol: llonyddwch a symud, cof ac anghofio, pwyll a gwallgofrwydd, goroesiad a difodiant. Dyma gasgliad meddylgar wedi’i lunio’n gain a chrefftus, yn ddyngarol ac yn ddeallgar.




