Disgrifiad
Mae Fargo Hawkins, garddwr Harry Swaine, yn 20 oed. Un diwrnod, wrth iddo weld sgarmes rhwng Harry a’i wraig, Anne, mae Fargo yn dwyn car gan fynd ar ffo gyda Anne a’r ci, Radar. Fe’u herlidir ar draws Lloegr gan Harry, cwmni o dditectifs a chan eu hemosiynau. Yn y pen draw, maent yn cyrraedd gwersyll carafanau yng Nghymru, a daw’r ymrafael…



