Disgrifiad
Daw’r straeon yn Scar Tissue o dan benawdau enigmataidd megis gofod, cartref, oddi cartref, lle ac unlle. Trwy amrywiaeth eang o gymeriadau a sefyllfaoedd, trafodir rhyw, marwolaeth, perthnasau, perthyn a dadleoliad. Straeon cain, deniadol ar gyfer ein hoes ni.



