Disgrifiad
Casgliad o 120 o ffotograffau du a gwyn sy’n dathlu’r diwydiannau bugeilio a ffermio defaid yng nghanolbarth a gogledd Cymru. Dyma ddogfen gymdeithasol bwysig, o adrodd, portreadu a ffotograffiaeth ddogfennol, sy’n cofnodi ffordd o fyw a fu dan bwysau dros y ddwy ganrif ddiwethaf, ac sydd dan bwysau dwysach erbyn heddiw.



