Disgrifiad
Rhwng Awst a Thachwedd 1888, cafodd pum gwraig eu llofruddio yn Whitechapel, ac am dros gan mlynedd bu’r llofruddiaethau yn un o droseddau penna’r byd nas datryswyd. Mae’r awdures Antonia Alexander yn ddisgynnydd uniongyrchol i ffrind agos i’r bumed wraig a ddioddefodd dan law Jack the Ripper, sef Mary Kelly.



