Disgrifiad
Cyfrol yn adrodd hanes digwyddiadau tywyll yr ‘holocaust’ i blant, trwy gyfrwng ffotograffau atgofus, mapiau a thestun eglur a sensitif. Archwilir y rhesymau cymhleth am y lladdfa, bywyd yn y geto a’r gwersylloedd crynhoad, ynghyd â’r hyn a ddilynodd hyd at sefydlu gwladwriaeth Israel.



