Disgrifiad
Dyma lyfr rhagarweiniol i gyflwyno’r gyfres Mêts Maesllan. Mae’r gyfres a’r gweithgareddau yn dilyn hynt, helynt a diddordebau criw o ffrindiau, sef Mim, Ben, Sam a Wil (a Bob y ci) sy’n byw ym mhentref Maesllan. Mae’r gyfres yn cynnwys pecyn o 32 o lyfrau trawsgwricwlaidd sy’n cynnwys rhai ffuglen, ffeithiol ac ambell un ar ffurf mydr ac odl.



