Disgrifiad
Hanes ffeithiol am y Mimosa, y llong a gariodd yr ymfudwyr Cymreig i Batagonia. Cofnodir ei hadeiladwyr a’i pherchnogion, ei hamser yn cludo te cyn y fordaith hanesyddol ar draws cefnfor yr Atlantig, a diwedd ei hoes yn hwylio ar hyd arfordir gorllewin yr Affrig. Argraffiad newydd i ddathlu canmlwyddiant a hanner y fordaith i Batagonia.



