Disgrifiad
Traethawd ffotograffig personol gan Emyr Young wrth iddo ddychwelyd i fro ei febyd. Trwy gyfrwng lluniau cyfareddol o’r sir, ei thirwedd a’i phobl, mae Emyr yn ein tywys drwy lwybrau ei hanes a’i hanes personol. Cyfrol i bawb sy’n caru’r sir hudolus.



