Disgrifiad
Canllaw cyflawn i gerddwyr ar hyd Ffordd Glyndŵr. Mae’r gyfrol yn rhannu’r llwybr 135 milltir o hyd yn naw niwrnod o deithiau, gan gychwyn yn Nhrefyclo a gorffen yn y Trallwng. I gyd-fynd â’r disgrifiadau cam-wrth-gam ceir mapiau OS, ffotograffau a llu o fanylion am gyfleusterau a mannau o ddiddordeb ar hyd y daith.



