Disgrifiad
Cyfrol sy’n archwilio’r berthynas rhwng crefydd a hunaniaeth ym mywydau merched Cymru heddiw. Mae Manon Ceridwen James yn edrych ar hanes diweddar crefydd yng Nghymru, llenyddiaeth merched a’r modd y mae merched wedi wynebu ac yn parhau i wynebu pwysau unigryw wrth geisio hawlio eu hunaniaeth ac ennyn parch.



