Disgrifiad
Y freuddwyd – troi capel llaith sy’n pydru yn Aberllefenni ger Corris yn gartref, yn fangre harddwch a iachâd. Y gwirionedd – taith gorfforol ac emosiynol gythryblus i June a Bernard. Mae Capel Bethesda yn denu ymwelwyr lu ac mae dyddiadur June o gamp atgyweirio anhygoel yn ysbrydoledig, yn ddoniol ac yn onest.



