Disgrifiad
The Glass Menagerie yw un o ddramâu llwyddiannus cyntaf Tennessee Williams. Ac er i’w chefndir fod yn estron i Gymru, mae ei phwnc yn dragwyddol ei apêl. Dyna yw’r ddrama hon – stori am gariad sy’n wefr yn y dychymyg, ac eto’n ddim ond rhith i’w ddistrywio gan bethau fel y maent – peth brau nad oes dim yn ei aros ond cael ei dorri….



