Disgrifiad
Cyflwyniad wedi’i ddylunio’n hardd a’i ddarlunio’n llawn am fywyd a gwaith Dylan Thomas, un o brif lenorion Cymru. Yn ychwanegol at y cofiant a’r pytiau o’i ddrama Under Milk Wood, ei gerddi a’i straeon mwyaf poblogaidd, ceir ffotograffau trawiadol o’r bobl a’r lleoedd a ddylanwadodd arno.



