Disgrifiad
Hanes blwyddyn ym mywyd Peter Berry. Yn 50 oed, ac yntau yn ŵr priod, dedwydd yn rhedeg busnes llwyddiannus, mae bywyd Peter yn newid pan mae’n cael diagnosis o ddementia cynnar angheuol. Yn Olwyn Sgwâr, mae Peter yn rhannu’r profiad o fyw gyda chyflwr angheuol, a Deb yn dysgu sut i fwynhau bob dydd i’r eithaf.



