Disgrifiad
Golygfa hyfryd o fferm ym mhob un o’r pedwar tymor! O ddiwrnod heulog o haf i liwiau cyfoethog yr hydref, yna blanced eira’r gaeaf, ac yn olaf, y cennin Pedr yn llonni’r gwanwyn. Gyda 140 darn, mae’r pos hwn yn her i blant hŷn ac oedolion. Er bod y siapiau yn debyg, trefnwch nhw yn ôl tonau lliw.



