Disgrifiad
Mae bywyd yn anodd i Moxie, yn gofalu am ei brawd bach, Ryan a’i mam sâl. Yna mae Dyl, cariad diweddaraf ei mam, yn gysylltiedig â chriw o werthwyr cyffuriau lleol. Wrth i ddiddordebau busnes Dyl ddod yn fwy amlwg, mae Moxie’n sylweddoli bod rhaid iddi ddiogelu ei hun a Ryan.



