Disgrifiad
Ar blât mawr crand mewn becws, roedd Betsan Bynsen wen, Yn feddal ac yn felys – a cheiriosen ar ei phen. Ar ôl dianc o’r becws mae hi’n barod i weld y byd! Ond mae ci, cath a gŵydd yn ei gwylio, yn ysu am damaid ac yn barod i’w llowcio! Dere gyda Betsan ar antur anhygoel!



