Disgrifiad
Roedd Matthew Gregory Lewis, awdur The Monk (1796), yn un o awduron mwyaf drwg-enwog ei oes ym maes ffuglen Gothig. Mae’r gyfrol hon yn cyflwyno hanes llenyddol ei holl waith, gan leoli ei gynnyrch mewn perthynas â diwylliant llenyddol Gothig a Rhamantaidd yn ehangach.



