Disgrifiad
Dathliad ysbrydoledig o erddi gorau Cymru, o eiconau cenedlaethol megis gerddi Bodnant, Castell Powis a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, i emau llai cyfarwydd megis Dyffryn Fernant, Plas Cadnant a Gardd Y Fedw. Yn y gyfrol hon cewch fwynhau crwydro o gwmpas hanner cant o erddi amrywiol, a hynny o’ch cadair freichiau!



