Disgrifiad
Llyfr pen-i-waered ar gyfer disgyblion uwchradd. Mae’r llyfr yn trin a thrafod arwyr Cymru, yr iaith Gymraeg a’r frwydr i gael llywodraeth i Gymru o’r cyfeiriad llenyddol a’r anllenyddol. Rhagwelir y bydd athrawon yn defnyddio’r testunau i werthfawrogi, i gywain gwybodaeth ac i gymharu testunau â’i gilydd.



