Disgrifiad
Un o blith 8 llyfr thema ar gyfer plant 7-11 oed sy’n cyflwyno ffeithiau mewn ffordd fydd yn codi gwên a chodi awydd dysgu mwy. Mae Dyfeisiau difyr yn edrych ar bob math o ddyfeisiau sydd wedi gweddnewid ein bywydau, o’r brechiad yn erbyn y frech wen, y ffôn, yr oergell a’r rhewgell, i’r peiriant argraffu llyfrau.



