Disgrifiad
Mae Llŷn, heb amheuaeth, yn un o’r ardaloedd gorau i fynd ar eich beic ym Mhrydain. Mae gan Ben Llŷn amrywiaeth o dirweddau ac anifeiliad gwyllt, a nemor ddim traffig. Gellir seiclo ar hyd y lonydd braf; archwilio’r traethau, ogofau a chlogwyni; rhoi tro ar y darnau serth; a’r cyfan oll â’r môr a mynyddoedd yn gwmni i chi.



