Disgrifiad
Yn ystod y 1960au, roedd Cwm Dulas yn wynebu cael ei foddi gan ddŵr er mwyn cyfarfod a galw am ddŵr i Loegr. Rai blynyddoedd ynghynt, cafodd trigolion Cwm Celyn ym Meirionnydd eu gyrru o’u cartrefi pan foddwyd Cwm Tryweryn. Dyma hanes sut y brwydrodd trigolion Cwm Dulas i achub eu cymuned a’u cartrefi.



