Disgrifiad
Mae Caelloi Cymru bron yn gyfystyr â chymdeithas arbennig o deithwyr. Mae’r cwmni bysys hwn o bentref Dinas, gwlad Llŷn – bellach o Bwllheli – wedi bod yn trefnu gwyliau teithiol ers dros hanner canrif. Dyma stori unigryw y mae Herbert Jones, sydd wedi bod yn gyrru’r bysys ers y 1930au, wrth ei fodd yn ei hadrodd.



