Disgrifiad
Yn ddiweddar cyrhaeddodd Doreen Lewis, y ffermwraig a’r gantores o Ddyffryn Aeron, ddwy garreg filltir. Daeth i oedran pensiwn, gan ddathlu hefyd hanner can mlynedd o berfformio ar lwyfannau Cymru a thu hwnt. Dyma gyfrol gynnes o’i hatgofion drwy ei chaneuon.




