Disgrifiad
Mae Cymru wedi codi ei siâr o gymeriadau o bob math, ac un o’r cymeriadau unigryw hynny oedd Ieuan Roberts, neu Ieu Rhos. Daeth yn amlwg fel ymgyrchydd iaith ac un a fu am gyfnod yn ysgrifennydd Cymdeithas yr Iaith. Roedd ei bryd a gwedd yn unigryw, a’i iaith yn fwy unigryw fyth!



