Disgrifiad
Mae William Owen wedi bod yn diddanu darllenwyr a’i ysgrifau ers degawdau – ac wedi bygwth rhoi’r gorau i sgwennu sawl gwaith – ond dyma gyfrol arall o ffrwyth ei ysgrifbin. O ddyddiau ysgol i drosglwyddo organau (na, nid organau’r corff ond organau capel!) mae’r arlwy, eto fyth, yn amrywiol a difyr… yn codi gwen a phrocio’r meddwl.



