Disgrifiad
Teitl yn y gyfres o gyfrolau byr a chyflym Stori Sydyn. Dyma atgofion un o flaenwyr gwytnaf rygbi Cymru, Mefin Davies. Enillodd 39 cap fel bachwr dros Gymru, ond bu raid iddo symud i glwb Caerloyw i ennill bywoliaeth, yna ymuno â Chaerlŷr yn 2007 cyn dychwelyd adre i chwarae i’r Gweilch yn 2010 ac yntau’n 38 oed.



