Disgrifiad
Yn ardal Llangyndeyrn, sir Gaerfyrddin yn ystod y 1960au bu bygythiad i foddi’r pentref er mwyn creu cronfa ddŵr i wasanaethu dinas Abertawe. Cafwyd protestio brwd ac, yn y pen draw, llwyddwyd i oresgyn y bygythiad. Mae’n stori sy’n werth ei chofnodi, yn enwedig gan fod diwedd positif i’r hanes, yn wahanol i hanes boddi Tryweryn.



